Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2022
Amser:
09.30 -
12.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12891
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Carolyn Thomas AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Clive Phillips, Estyn Hayden Llewellyn, Education Workforce Council Arwyn Thomas, GwE Enlli Thomas, Prifysgol Bangor |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS a Buffy Williams AS wrth i'r Pwyllgor ddechrau ei ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
2 Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE), a Phrifysgol Bangor.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ôl-drafodaeth breifat
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6 Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried gwelliannau y tu allan i'r cyfarfod.
7 Adroddiad Blynyddol: Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried gwelliannau yn ei gyfarfod nesaf.
8 Trafod cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr ymchwiliad i’r gweithlu creadigol
8.1 Trafododd y Pwyllgor y ddogfen a chytunodd i’w hystyried eto yn ei gyfarfod nesaf.